Hysbysiad Preifatrwydd / Privacy Notification
image
Diogelu / Safeguarding
image
Swyddfa ar lein / Online office
image
Dogfennau / Documents
image
Uned Canolfan y Fesen
image
Upcoming Events

No Events to show

Latest News

16
Jul
2026
Prosiect pengwin / Penguin Project
16/07/2026 5:45 PM
Prosiect pengwin / Penguin Project

Prosiect pengwin 

Poster o dan 3.5.png

16
Jul
2026
Cynnig addysg / education offer
16/07/2026 5:41 PM
Cynnig addysg / education offer

Cynnig addysg

Early Years Flyer August 2019-1.jpg

Early Years Flyer August 2019-2.jpg

16
Jul
2026
FFORWM RHIENI / PARENT FORUM
16/07/2026 1:41 PM
FFORWM RHIENI / PARENT FORUM

13eg o Orffennaf 2026  
Annwyl Rieni a Gofalwyr, 
Ymateb y Pennaeth i Fforwm Rhieni  


Annwyl Rieni, 
Diolch yn fawr i'r ddau riant a fynychodd y Fforwm Rhieni a gynhaliwyd heno ar 13eg o Orffennaf 2026 rhwng 17.00 a 19.00 dros Microsoft Teams, ar ôl oriau ysgol. 


Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eich amser, eich cefnogaeth a'ch parodrwydd i rannu eich barn yn agored ac yn adeiladol. Mae eich adborth yn hynod werthfawr wrth ein helpu i ddatblygu'r ysgol er budd pob disgybl. 


Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd yr hyn sy'n gweithio'n dda yn yr ysgol, ynghyd â'r meysydd sydd angen sylw pellach. 


Beth sy'n gweithio'n dda? 
• Y ddarpariaeth awyr agored yn y Cyfnod Sylfaen. 
• Y gwaith garddwriaeth ym Mlwyddyn 2. 
• Y cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn cystadlaethau llwyfan a chwaraeon. 
• Y fwydlen gwaith cartref sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac opsiynau ychwanegol. 
Meysydd sydd angen sylw pellach? 
• Cryfhau'r defnydd o'r Gymraeg ar draws yr ysgol. 
• Sicrhau bod pob llythyr a neges yn cael eu darparu'n ddwyieithog. 
• Ystyried y posibilrwydd o gynnal cyngherddau yn ystod y dydd ac ychwanegu perfformiad 
gyda'r nos er mwyn galluogi rhieni sy'n gweithio i fynychu. 
• Sicrhau bod cyfarfodydd rhieni yn cael eu cynnal yn ddwyieithog.  
• Sicrhau bod cyngherddau'r disgyblion yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg. 
• Sicrhau bod pob disgybl (sydd yn barod i ddarllen) fynd adref â llyfr darllen a llyfryn cofnod 
darllen yn ddyddiol. 
• Adolygu'r drefn ar gyfer rhannu lluniau'r Ysgol ar yr ap, gan gynnwys disgrifiadau priodol i 
helpu’r rhieni ddarganfod y lluniau. 


Cafodd y meysydd canlynol hefyd eu nodi yn yr holiadur diweddar a gwblhawyd gan 9 person: 


• Cynyddu nifer y teithiau dosbarth.  
• Cynyddu nifer yr ymwelwyr a'r gweithgareddau ar gyfer y disgyblion.  
• Darparu sesiynau coginio a sgiliau bywyd i'r disgyblion.  
• Edrych ar y posibilrwydd o gynyddu nifer y gwersi cerdd o fewn yr ysgol.  
• Cynyddu nifer y clybiau a gynhelir gan aelodau o staff ar ôl ysgol.  
• Gwella eglurder yr ap ysgol.  

Bydd y sylwadau a'r awgrymiadau a godwyd yn cael eu hystyried yn ofalus fel rhan o Gynllun 
Datblygu'r Ysgol ym mis Medi 2026, a byddant hefyd yn cael eu trafod gyda'r Corff Llywodraethu maes o law. Bydd rhai o'r awgrymiadau'n bosibl eu gweithredu, tra bydd eraill yn fwy heriol, yn enwedig wrth ystyried y ddarpariaeth y tu allan i oriau'r ysgol y gofynnwyd amdani oherwydd  telerau gwaith staff yr ysgol.

Bydd y sylwadau a'r awgrymiadau uchod yn cael eu hystyried yn fanwl wrth lunio Cynllun Datblygu'r Ysgol ym mis Medi 2026.  


Diolch unwaith eto am eich cyfraniad gwerthfawr a'r sgwrs agored. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac yn ymrwymo i ystyried eich syniadau wrth gynllunio ein blaenoriaethau ar gyfer y  flwyddyn ysgol nesaf. 


Yn gywir, 
Gary Anderson

 

Dear Parents, 


I would like to sincerely thank the two parents who attended the Parents' Forum meetings 
held on 13th  July 2026 between 17.00 pm and 19.00 pm via Microsoft Teams after the 
school day. 


We greatly appreciate the time you gave to attend and your willingness to share your views 
openly and constructively. Your feedback is invaluable in helping us continue to improve our 
school for the benefit of all pupils. 


During the meeting, we discussed what is working well within the school, as well as areas 
that require further attention. 


What is working well? 
• The outdoor learning provision within the Foundation Phase. 
• The gardening activities in Year 2. 
• Opportunities for pupils to participate in performing arts and sporting competitions. 
• The homework menu, which offers a range of additional activities and choices. 


Areas for further development? 
• Strengthening the use of Welsh throughout the school. 
• Ensuring that all letters and communications are provided bilingually. 
• Exploring the possibility of holding school concerts during the day as well as an 
evening performance to enable working parents to attend. 
• Ensuring that parents' meetings are conducted bilingually. 
• Ensuring that pupils' concerts are presented through the medium of Welsh. 
• Ensuring that every pupil (who is ready and able to read) takes home a reading book 
and reading record each day.

• Reviewing the system for sharing school photographs, including appropriate captions 
and descriptions to help parents navigate the albums. 


The following additional areas were also mentioned on the recent questionnaire results completed by 9 people. 

 
• Increase the number of class trips. 
• Increase the number of visitors and activities for pupils.  
• Provide cooking and life skill sessions for pupils. 
• To look at possibly increasing music lessons within school.  
• Increase the number of clubs ran by staff after school.  
• Improve clarity on the school app.  


The comments and suggestions raised will be carefully considered as part of the school's 
School Development Plan in September 2026 and will also be discussed with the Governing 
Body in due course. Some suggestions will be possible and others more difficult when 
considering the out of hours school provision requested due to staff contracted hours.


Thank you once again for your valuable contribution and for the open and constructive 
discussion. We truly appreciate your support and are committed to considering your ideas 
as we plan our priorities for the coming academic year. 


Yours sincerely, 
Gary Anderson

Cais i'r tim llywodraethu / Application for governance team 15/10/2025, 3:30 PM

Dear Parent / Carer,Applications are invited for Parent Governor from parents with a child/children registered at the school in order to fill 2 vacancies on the Governing Body from November.In the event of the receipt of more than 2 applications, an election will be conducted during the term involving parents of pupils registered at the school.Application papers, together with the limitation provisions on people’s eligibility to be governors, are available from the headteacher at school. To show an expession of interest and receive a copy of the documents please contact via email  gary.anderson@llangennech.ysgolccc.cymru by 10 a.m. on Monday October 20th 2025.The successful Parent Governors will serve for a period of 4 years and will NOT be required to cease to hold office when his/her children leave the school.

 

Park Run Llanelli 11/03/2025, 11:18 AM

Gwybodaeth am y 'Park Run'

Information about the Park Run

Ras Lliwiau / Race of Colour 104/03/2025, 9:30 AM
Llythyr Llangrannog B. 6 17/02/2025, 3:03 PM

Gwybodaeth am yr hyn sydd angen ar eich plentyn. 

Llythyr Deintydd / Dentist Letter14/01/2025, 1:53 PM