Blaenoriaeth 1
Targedau a Meini Prawf Llwyddiant
Pob un o'r rhanddeiliaid wedi derbyn cyflwyniad ac yn deall sut mae'r 5 Egwyddor Cynnydd yn ganolog i ddyluniad cwricwlwm yr ysgol.
Pob athro yn gwneud defnydd o'r 5 Egwyddor Cynnydd wrth gynllunio llinyn asesu yn eu ymholiadau.
Llywodraethwyr wedi mynychu hyfforddiant yr awdurdod ar gefnogi a herio Egwyddorion Cynnydd.
Rhieni yn derbyn a deall deunydd llenyddol gydag enghreifftiau o'r hyn yw y 5 egwyddor ar lawr y dosbarth.
Athrawon a staff yn adnabod y 5 Egwyddor yn naturiol yn eu gwaith bob dydd.
Blaenoriaeth 2
Targedau a Meini Prawf Llwyddiant
Athrawon yn medru integreiddio cymhwysedd digidol yn hyderus ac effeithiol I'r addysgu.
Bod cymhwysedd digidol wedi’i wreiddio ym mhob maes dysgu, yn unol â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) a Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm Cymreig (MDPh)
System i olrhain cynnydd disgyblion mewn cymhwysedd digidol ac addasu strategaethau yn unol â hynny.
|
Blanoriaeth 3
Targedau a Meini Prawf Llwyddiant
Teimla'r disgyblion ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â'u hamgylchedd. Mae diddordebau disgyblion yn cael eu harsylwi a'u hadlewyrchu mewn cyfleoedd cynlluniedig a fydd yn hybu eu dysgu. Mae athrawon a TAs wedi ennill achrediad yn arfer Hygge yn y blynyddoedd cynnar ac mae’r ethos hwn yn amlwg yn yr amgylchedd dysgu ac yn agweddau holl aelodau’r dosbarth. Mae chwilfrydedd yn amlwg ym mhob rhanddeiliad o fewn y dosbarth. Ceir ymdeimlad o ryfeddod a chwilfrydedd lle caiff dysgu ei nodi a'i ddathlu gan bawb sy'n cymryd rhan
Blaenoriaeth 4
Targedau a Meini Prawf Llwyddiant
Bod gan yr ysgol system tracio a dadansoddi data presenoldeb.
Bod yr ysgol yn medru adrodd i rieni yn fisol yn ddiogel gan gadw cofnod o’r data yn ddiogel.
Bod proffil pwysigrwydd presenoldeb yn cael ei rannu gyda’r rhanddeiliaid.
Cyfradd prydlondeb disgyblion yn codi.
Cyfradd presenoldeb disgyblion yn codi
Cyfradd presenoldeb disgyblion PYDd disgyblion yn codi.
|
|